Eseia 29:11-14
Eseia 29:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio.” Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni fedraf ddarllen.” Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD, “Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf a thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig, ond eu calon ymhell oddi wrthyf, a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof, am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto, ac yn syfrdanu'r bobl hyn; difethir doethineb eu doethion a chuddir deall y rhai deallus.”
Eseia 29:11-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi’i selio. Mae’n cael ei rhoi i rywun sy’n gallu darllen, gan ofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw’n ateb, “Alla i ddim, mae wedi’i selio.” Yna mae’n cael ei rhoi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, gan ofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a’i ateb e ydy, “Dw i ddim yn gallu darllen.” Dyma ddwedodd y Meistr: Mae’r bobl yma’n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau’n bell oddi wrtho i. Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond traddodiad dynol wedi’i ddysgu iddyn nhw. Felly, dw i’n mynd i syfrdanu’r bobl yma dro ar ôl tro gydag un rhyfeddod ar ôl y llall. Ond bydd doethineb y deallus yn darfod, a chrebwyll pobl glyfar wedi’i guddio.
Eseia 29:11-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef. Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr. Am hynny y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â’u genau, ac yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion; Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod: canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia.