Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 28:14-29

Eseia 28:14-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus, penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem. Yr ydych chwi'n dweud, “Gwnaethom gyfamod ag angau a chynghrair â Sheol: pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd â ni, am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll.” Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw: “Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion, maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia'r sawl sy'n credu. Gwnaf farn yn llinyn mesur, a chyfiawnder yn blymen; bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd, a'r dyfroedd yn boddi eich lloches; diddymir eich cyfamod ag angau, ac ni saif eich cynghrair â Sheol. Pan â'r ffrewyll lethol heibio cewch eich mathru dani. Bob tro y daw heibio, fe'ch tery; y naill fore ar ôl y llall fe ddaw, liw dydd a liw nos.” Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers. Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo, a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano. Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim, ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon, i orffen ei waith, ei ddieithr waith, ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl. Yn awr, peidiwch â'ch gwatwar, rhag i'r rhwymau dynhau amdanoch, canys clywais gyhoeddi diwedd a therfyn ar yr holl wlad gan Arglwydd DDUW y Lluoedd. Clywch, gwrandewch arnaf, rhowch sylw, a gwrandewch ar fy ngeiriau. A fydd yr arddwr yn aredig trwy'r dydd ar gyfer hau, trwy'r dydd yn torri'r tir ac yn ei lyfnu? Oni fydd, ar ôl lefelu'r wyneb, yn taenu ffenigl ac yn gwasgaru cwmin, yn hau gwenith a haidd, a cheirch ar y dalar? Y mae ei Dduw yn ei hyfforddi ac yn ei ddysgu'n iawn. Nid â llusgen y dyrnir ffenigl, ac ni throir olwyn men ar gwmin; ond dyrnir ffenigl â ffon, a'r cwmin â gwialen. Fe felir ŷd i gael bara, ac nid yw'r dyrnwr yn ei falu'n ddiddiwedd; er gyrru olwyn men drosto, ni chaiff y meirch ei fathru. Daw hyn hefyd oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd; y mae ei gyngor yn rhyfeddol a'i allu'n fawr.

Eseia 28:14-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly dyma neges yr ARGLWYDD i chi sy’n gwawdio, chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem! Chi sy’n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb â Marwolaeth, a tharo bargen i osgoi’r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.” Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i’n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy’n credu ddim yn panicio. Bydda i’n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur, a thegwch yn llinyn plwm. Bydd cenllysg yn ysgubo’r twyll, sef eich lle i guddio, a bydd dŵr y llifogydd yn boddi’ch lle saff i gysgodi. Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri, a’ch bargen gyda’r bedd yn chwalu. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, chi fydd yn diodde’r difrod. Bydd yn eich taro chi bob tro y bydd yn dod. Bydd yn dod un bore ar ôl y llall, bob dydd a bob nos.” Bydd deall y neges yma yn achosi dychryn ofnadwy. Mae’r gwely’n rhy fyr i ymestyn arno, a’r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano! Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; bydd yn cyffroi i wneud ei waith fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon – ond bydd yn waith rhyfedd! Bydd yn cyflawni’r dasg – ond bydd yn dasg ddieithr! Felly, stopiwch wawdio, rhag i’ch rhwymau gael eu tynhau. Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn gorchymyn dinistrio’r wlad gyfan. Gwrandwch yn astud ar hyn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i’n ddweud. Ydy’r sawl sy’n aredig yn aredig drwy’r amser heb hau? Ydy e’n troi’r tir a’i lyfnu’n ddi-baid? Ar ôl ei lefelu, onid ydy e’n gwasgaru ffenigl a hadau cwmin? Onid ydy e’n hau gwenith mewn rhes, haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely? Ei Dduw sy’n ei ddysgu; mae’n dysgu’r ffordd iawn iddo. Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled, na cwmin gydag olwyn trol. Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon, a chwmin gyda gwialen. Mae gwenith yn cael ei falu, ond ddim yn ddiddiwedd. Mae olwyn trol yn rholio drosto, ond dydy’r ceffylau ddim yn ei sathru. A’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd – Mae ganddo gynllun gwych, ac mae’n rhyfeddol o ddoeth.

Eseia 28:14-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem. Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo. A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches. A diddymir eich amod ag angau, a’ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi. O’r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir. Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo. Canys yr ARGLWYDD a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred. Ac yn awr na watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth ARGLWYDD DDUW y lluoedd ar yr holl dir. Clywch, a gwrandewch fy llais; ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd. Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir? Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a’r haidd nodedig, a’r rhyg yn ei gyfle? Canys ei DDUW a’i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a’i dysg ef. Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen. Ŷd bara a felir; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol, ac ni ysiga ef ag olwyn ei fen, ac nis mâl ef â’i wŷr meirch. Hyn hefyd a ddaw oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.