Eseia 26:1-11
Eseia 26:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda: Mae gynnon ni ddinas gref; achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi. Agorwch y giatiau, i’r genedl gyfiawn ddod i mewn a gweld ei ffyddlondeb. Mae’r rhai sy’n dy drystio di yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl. Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser, achos, wir, mae’r ARGLWYDD yn graig am byth. Mae’n tynnu’r rhai balch i lawr. Mae’n gwneud i’r ddinas saff syrthio – syrthio i’r llawr nes bydd yn y llwch. Mae’n cael ei sathru dan draed – traed y rhai anghenus, a sodlau’r rhai tlawd. Mae’r llwybr yn wastad i’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn; rwyt ti’n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn. Dŷn ni’n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn; cofio dy enw di ydy’n hiraeth dyfnaf ni. Yn y nos dw i’n dyheu amdanat o waelod calon, mae’r cwbl sydd ynof yn dy geisio di’n daer; achos pan mae’r hyn sy’n iawn yn dy olwg di’n cael ei wneud yn y wlad, maen nhw’n dysgu beth sy’n iawn i bawb yn y byd. Pan mae’r un sy’n gwneud drwg yn cael ei esgusodi, dydy e ddim yn dysgu beth sy’n iawn. Mae’n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest – dydy e’n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD. ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithredu ond dŷn nhw ddim wedi sylwi. Gad iddyn nhw gywilyddio wrth weld dy sêl dros dy bobl, a’th dân yn llosgi dy elynion.
Eseia 26:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dydd hwnnw cenir y gân hon yng ngwlad Jwda: Y mae gennym ddinas gadarn; y mae'n gosod iachawdwriaeth yn furiau a chaerau iddi. Agorwch y pyrth i'r genedl gyfiawn ddod i mewn, y genedl sy'n cadw'r ffydd. Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â'i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd, canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw. Y mae'n tynnu i lawr breswylwyr yr uchelder a'r ddinas ddyrchafedig; fe'i gwna'n wastad, yn gydwastad â'r llawr, a'i bwrw i'r llwch; fe'i sethrir dan draed, traed y rhai truenus, a than sang y rhai tlawd. Y mae'r llwybr yn wastad i'r rhai cyfiawn; gwnei ffordd y cyfiawn yn llyfn; edrychwn ninnau atat ti, O ARGLWYDD, am lwybr dy farnedigaethau; d'enw di a'th goffa di yw ein dyhead dwfn. Deisyfaf di â'm holl galon drwy'r nos, a cheisiaf di'n daer gyda'r wawr; oherwydd pan fydd dy farnedigaethau yn y wlad, bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder. Er gwneud cymwynas â'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder; fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn, ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD. O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant; gad iddynt weld dy sêl dros dy bobl, a chywilyddio; a bydded i dân d'elyniaeth eu hysu.
Eseia 26:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; DUW a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur. Agorwch y pyrth, fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd. Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD byth; oherwydd yn yr ARGLWYDD DDUW y mae cadernid tragwyddol. Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a’i darostwng hi i’r llawr, ac a’i bwrw hi i’r llwch. Troed a’i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre’r tlodion. Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn. Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y’th ddisgwyliasom, ARGLWYDD; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth. A’m henaid y’th ddymunais liw nos; â’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear. Gwneler cymwynas i’r annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl uchelder yr ARGLWYDD. Ni welant, ARGLWYDD, pan ddyrchafer dy law: eithr cânt weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl; ie, tân dy elynion a’u hysa hwynt.