Eseia 2:6-22
Eseia 2:6-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl, pobl Jacob, am eu bod nhw’n llawn o ofergoelion y dwyrain, yn dweud ffortiwn fel y Philistiaid ac yn gwneud busnes gydag estroniaid. Mae’r wlad yn llawn o arian ac aur; does dim diwedd ar eu trysorau. Mae’r wlad yn llawn o feirch rhyfel; does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel. Mae’r wlad yn llawn eilunod diwerth, ac maen nhw’n plygu i addoli gwaith eu dwylo – pethau maen nhw eu hunain wedi’u creu! Bydd pobl yn cael eu darostwng a phawb yn cywilyddio – paid maddau iddyn nhw! Ewch i guddio yn y graig, a chladdu eich hunain yn y llwch, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eich dychryn chi! Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder, a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny! Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus ddiwrnod arbennig i ddelio gyda phob un balch a snobyddlyd, a phawb sy’n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw! Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus, sydd mor dal ac urddasol; gyda choed derw Bashan; gyda’r holl fynyddoedd uchel a’r bryniau balch; gyda phob tŵr uchel, a phob wal solet; gyda llongau masnach Tarshish, a’r cychod pleser i gyd. Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr, a hunanhyder pobl yn syrthio. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny! Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu. Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau a thyllau yn y ddaear – rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i’r ddaear grynu. Bryd hynny, bydd pobl yn taflu’r eilunod arian a’r eilunod aur i’r tyrchod daear a’r ystlumod – yr eilunod wnaethon nhw i’w haddoli. Byddan nhw’n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau, a hafnau yn y clogwyni, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i’r ddaear grynu. Peidiwch rhoi’ch ffydd mewn pobl sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau! Achos pa werth sydd iddyn nhw?
Eseia 2:6-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl, oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain, a swynwyr fel y Philistiaid, ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid. Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur, ac nid oes terfyn ar eu trysorau; y mae eu gwlad yn llawn o feirch, ac nid oes terfyn ar eu cerbydau; y mae eu gwlad yn llawn o eilunod; ymgrymant i waith eu dwylo, i'r hyn a wnaeth eu bysedd. Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth, ac y syrth pob un— paid â maddau iddynt. Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwch rhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef. Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth, a gostyngir balchder pob un; yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddydd yn erbyn pob un balch ac uchel, yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel, yn erbyn holl gedrwydd Lebanon, sy'n uchel a dyrchafedig; yn erbyn holl dderi Basan, yn erbyn yr holl fynyddoedd uchel ac yn erbyn pob bryn dyrchafedig; yn erbyn pob tŵr uchel ac yn erbyn pob magwyr gadarn; yn erbyn holl longau Tarsis ac yn erbyn yr holl gychod pleser. Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth, ac fe syrth balchder y natur ddynol. Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. Â'r eilunod heibio i gyd. Â pawb i holltau yn y creigiau ac i dyllau yn y ddaear, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear. Yn y dydd hwnnw bydd pobl yn taflu eu heilunod arian a'r eilunod aur a wnaethant i'w haddoli, yn eu taflu i'r tyrchod daear a'r ystlumod; ac yn mynd i ogofeydd yn y creigiau ac i holltau yn y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear. Peidiwch â gwneud dim â meidrolyn sydd ag anadl yn ei ffroenau, canys pa werth sydd iddo?
Eseia 2:6-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain, a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant. A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a’u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau. Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun: A’r gwrêng sydd yn ymgrymu, a’r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt. Dos i’r graig, ac ymgudd yn y llwch, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef. Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. Canys dydd ARGLWYDD y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir: Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan, Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig, Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn, Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol. Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol. A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod: I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?