Eseia 11:3-4
Eseia 11:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i’r ARGLWYDD: fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si. Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i’r rhai sy’n cael eu cam-drin yn y tir. Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro’r ddaear a bydd yn lladd y rhai drwg gyda’i anadl.
Eseia 11:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a wêl y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna, ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau, ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
Eseia 11:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr ARGLWYDD: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.