Eseia 11:1-10
Eseia 11:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o'i wraidd ef; bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a wêl y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna, ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau, ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus. Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynau a ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol. Fe drig y blaidd gyda'r oen, fe orwedd y llewpard gyda'r myn; bydd y llo a'r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain. Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth, a'u llydnod yn cydorwedd; bydd y llew yn bwyta gwair fel ych. Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb, a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD. Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus.
Eseia 11:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse, a changen ffrwythlon yn tyfu o’i wreiddiau. Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno: ysbryd doethineb rhyfeddol, ysbryd strategaeth sicr, ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD. Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i’r ARGLWYDD: fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si. Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i’r rhai sy’n cael eu cam-drin yn y tir. Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro’r ddaear a bydd yn lladd y rhai drwg gyda’i anadl. Bydd cyfiawnder a ffyddlondeb fel belt am ei ganol. Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda’r oen, a’r llewpard yn gorwedd i lawr gyda’r myn gafr. Bydd y llo a’r llew ifanc yn pori gyda’i gilydd, a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw. Bydd y fuwch a’r arth yn pori gyda’i gilydd, a’u rhai ifanc yn cydorwedd; a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych. Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber. Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi. Fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD. Bryd hynny, bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyll yn arwydd clir i’r bobloedd – bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor, a bydd ei le yn ysblennydd.
Eseia 11:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr ARGLWYDD: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir. A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau. A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a’r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain. Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd; eu llydnod a gydorweddant: y llew, fel yr ych, a bawr wellt. A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr ARGLWYDD, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr. Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a’i orffwysfa fydd yn ogoniant.