Hebreaid 9:14-15
Hebreaid 9:14-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy – mae’n glanhau’r gydwybod o’r pethau sy’n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu’r Duw byw! Mae’r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol. Dyna pam mai fe ydy’r canolwr sy’n selio’r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu’r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau’r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf – er mwyn i’r rhai sydd wedi’u galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi’u haddo iddyn nhw.
Hebreaid 9:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw. Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf.
Hebreaid 9:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu’r Duw byw? Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.