Hebreaid 9:13-14
Hebreaid 9:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oblegid os yw gwaed geifr a theirw, a lludw anner, o'i daenu ar yr halogedig, yn sancteiddio hyd at buredigaeth allanol, pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw.
Hebreaid 9:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd gwaed geifr a theirw yn cael ei daenellu, a lludw’r heffer yn cael ei wasgaru, er mwyn gwneud y bobl oedd yn aflan yn lân yn seremonïol. Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy – mae’n glanhau’r gydwybod o’r pethau sy’n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu’r Duw byw! Mae’r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol.
Hebreaid 9:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu’r Duw byw?