Hebreaid 9:1-10
Hebreaid 9:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, yr oedd gan y cyfamod cyntaf hefyd ordinhadau addoliad, a chysegr, ond mai cysegr daearol oedd. Oblegid codwyd pabell, sef y gyntaf, ac ynddi hi yr oedd y canhwyllbren a'r bwrdd a'r bara gosod; gelwir hon yn Gysegr. A'r tu ôl i'r ail len yr oedd y babell a elwir yn Gysegr Sancteiddiaf, lle'r oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro drosti i gyd; yn honno yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, a flagurodd unwaith, a llechau'r cyfamod; ac uwch ei phen yr oedd cerwbiaid y gogoniant, yn cysgodi'r drugareddfa. Am y rhain ni ellir manylu yn awr. Yn ôl y trefniadau hyn, y mae'r offeiriaid yn mynd i mewn yn barhaus i'r babell gyntaf i gyflawni'r gwasanaethau; ond yr archoffeiriad yn unig sy'n mynd i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, ac nid yw yntau'n mynd heb waed i'w offrymu drosto'i hun a thros bechodau anfwriadol y bobl. Yn hyn, y mae'r Ysbryd Glân yn dangos nad oedd y ffordd i'r cysegr wedi ei hamlygu cyhyd ag yr oedd y tabernacl cyntaf yn sefyll. Y mae hyn oll yn arwyddlun ar gyfer yr amser presennol. Yn ôl y drefn hon offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio'r addolwr yn ei gydwybod, oherwydd y maent yn ymwneud yn unig â bwydydd a diodydd ac amrywiol olchiadau, ordinhadau allanol sydd wedi eu gosod hyd amser y drefn newydd.
Hebreaid 9:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd gan yr ymrwymiad cyntaf reolau ar gyfer yr addoliad, a chysegr yn ganolfan i’r addoliad ar y ddaear. Roedd dwy ystafell yn y babell. Yn yr ystafell allanol roedd y ganhwyllbren a hefyd y bwrdd gyda’r bara wedi’i gysegru arno – dyma oedd yn cael ei alw ‘Y Lle Sanctaidd’. Yna roedd llen, ac ystafell arall y tu ôl iddi, sef ‘Y Lle Mwyaf Sanctaidd’. Yn yr ystafell fewnol roedd allor yr arogldarth ac arch yr ymrwymiad (cist bren oedd wedi’i gorchuddio ag aur). Yn y gist roedd jar aur yn dal peth o’r manna o’r anialwch, hefyd ffon Aaron (sef yr un oedd wedi blaguro), a’r ddwy lechen roedd Duw wedi ysgrifennu’r Deg Gorchymyn arnyn nhw. Yna uwchben y gist roedd dau greadur hardd wedi’u cerfio, a’u hadenydd yn cysgodi dros y caead – sef y man ble roedd Duw yn maddau pechodau. Ond does dim pwynt dechrau trafod hyn i gyd yn fanwl yma. Gyda popeth wedi’i osod yn ei le, roedd yr offeiriaid yn mynd i mewn i’r ystafell allanol yn rheolaidd i wneud eu gwaith. Ond dim ond yr archoffeiriad oedd yn mynd i mewn i’r ystafell fewnol, a hynny un waith y flwyddyn yn unig. Ac roedd rhaid iddo fynd â gwaed gydag e, i’w gyflwyno i Dduw dros ei bechodau ei hun a hefyd y pechodau hynny roedd pobl wedi’u cyflawni heb sylweddoli eu bod nhw’n pechu. Mae’r Ysbryd Glân yn dangos i ni drwy hyn bod hi ddim yn bosib mynd i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd (sef yr un nefol) tra oedd y babell gyntaf, a’r drefn mae’n ei chynrychioli, yn dal i sefyll. Mae’n ddarlun sy’n dangos beth sy’n bwysig heddiw. Doedd y rhoddion a’r aberthau oedd yn cael eu cyflwyno dan yr hen drefn ddim yn gallu rhoi cydwybod glir i’r addolwr. Dŷn nhw ddim ond yn rheolau ynglŷn â gwahanol fathau o fwyd a diod a defodau golchi – pethau oedd ond yn berthnasol nes i’r drefn newydd gyrraedd.
Hebreaid 9:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol. Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a’r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr. Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf; Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau’r cyfamod: Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw: Ac i’r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i hun, a thros anwybodaeth y bobl. A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll: Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd; Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.