Hebreaid 6:19-20
Hebreaid 6:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen, lle y mae Iesu wedi mynd, yn rhagredegydd ar ein rhan, wedi ei wneud yn archoffeiriad am byth, yn ôl urdd Melchisedec.
Hebreaid 6:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o’n blaenau ni, tu ôl i’r llen, i mewn i’r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw. Ydy, mae Iesu wedi mynd i mewn yno ar ein rhan ni. Fe ydy’r un “sy’n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
Hebreaid 6:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.