Hebreaid 6:17-19
Hebreaid 6:17-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai’n gwneud beth roedd wedi’i addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw. Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw – dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni’n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi’i roi i ni. Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o’n blaenau ni, tu ôl i’r llen, i mewn i’r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw.
Hebreaid 6:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, pan ewyllysiodd Duw brofi'n llwyrach i etifeddion yr addewid mor ddigyfnewid yw ei fwriad, fe roddodd warant drwy lw, er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen. Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen
Hebreaid 6:17-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen