Hebreaid 6:13-20
Hebreaid 6:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan roddodd Duw, felly, addewid i Abraham, gan nad oedd ganddo neb mwy i dyngu wrtho, fe dyngodd wrtho'i hun gan ddweud: “Yn wir, bendithiaf di, ac yn ddiau, amlhaf di.” Ac felly, wedi disgwyl yn amyneddgar, fe gafodd yr hyn a addawyd. Oherwydd wrth un mwy y bydd pobl yn tyngu; ac y mae llw yn rhoi gwarant sydd yn derfyn ar bob dadl rhyngddynt. Felly, pan ewyllysiodd Duw brofi'n llwyrach i etifeddion yr addewid mor ddigyfnewid yw ei fwriad, fe roddodd warant drwy lw, er mwyn i ddau beth digyfnewid, dau beth yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt, beri i ni sydd wedi ffoi am noddfa dderbyn symbyliad cryf i ymaflyd yn y gobaith a osodwyd o'n blaen. Y mae'r gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy'n mynd trwodd i'r tu mewn i'r llen, lle y mae Iesu wedi mynd, yn rhagredegydd ar ein rhan, wedi ei wneud yn archoffeiriad am byth, yn ôl urdd Melchisedec.
Hebreaid 6:13-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf. Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid. Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.