Hebreaid 5:5-11
Hebreaid 5:5-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wnaeth y Meseia ei hun ddim ceisio’r anrhydedd o fod yn Archoffeiriad chwaith. Duw wnaeth ei ddewis e, a dweud wrtho, “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i’n dad i ti.” Ac yn rhywle arall mae’n dweud, “Rwyt ti’n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu’n gweddïo gan alw’n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw’n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo. Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd drwy beth wnaeth e ddioddef. Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy’n ufudd iddo. Cafodd ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad “yr un fath â Melchisedec.” Mae cymaint y gellid ei ddweud am hyn, ond dych chi mor araf i ddysgu, ac felly mae’n anodd esbonio’r cwbl.
Hebreaid 5:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho: “Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw.” Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd: “Yr wyt ti'n offeiriad am byth yn ôl urdd Melchisedec.” Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddïau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn. Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd, ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo, wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec. Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall.
Hebreaid 5:5-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd; Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd-dod trwy’r pethau a ddioddefodd: Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhânt iddo; Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec. Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau.