Hebreaid 5:1-4
Hebreaid 5:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pob archoffeiriad yn cael ei ddewis i wasanaethu Duw ar ran pobl eraill. Mae wedi’i benodi i gyflwyno rhoddion gan bobl i Dduw, ac i aberthu dros eu pechodau nhw. Mae’n gallu bod yn sensitif wrth ddelio gyda phobl sydd ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi pechu ac wedi cael eu camarwain. Dyn ydy yntau hefyd, felly mae’n ymwybodol o’i wendidau ei hun. Dyna pam mae’n rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun yn ogystal â phechodau’r bobl. Does neb yn gallu dewis bod yn Archoffeiriad ohono’i hun; rhaid iddo fod wedi’i alw gan Dduw, yn union yr un fath ag Aaron.
Hebreaid 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud â Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau. Y mae'n gallu cydymddwyn â'r rhai anwybodus a chyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid; ac oherwydd y gwendid hwn, rhaid iddo offrymu dros bechodau ar ei ran ei hun, fel ar ran y bobl. Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo'i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron.
Hebreaid 5:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron.