Hebreaid 4:9-12
Hebreaid 4:9-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, mae yna ‘orffwys y seithfed dydd’ sy’n dal i ddisgwyl pobl Dduw. Mae pawb sy’n cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys o’u gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e. Felly gadewch i ni wneud ein gorau glas i fynd i’r lle saff hwn lle cawn ni orffwys. Bydd unrhyw un sy’n gwrthod dilyn Duw yn syrthio, fel y gwnaeth y bobl yn yr anialwch. Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud. Mae’n fwy miniog na’r un cleddyf, ac yn treiddio’n ddwfn o’n mewn, i wahanu’r enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr. Mae’n barnu beth dŷn ni’n ei feddwl ac yn ei fwriadu.
Hebreaid 4:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, y mae gorffwysfa'r Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw. Oherwydd mae pwy bynnag a ddaeth i mewn i'w orffwysfa ef yn gorffwys oddi wrth ei waith, fel y gorffwysodd Duw oddi wrth ei waith yntau. Gadewch inni ymdrechu, felly, i fynd i mewn i'r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio o achos yr un math o anufudd-dod. Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.
Hebreaid 4:9-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw. Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau. Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth. Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon.