Hebreaid 4:3-5
Hebreaid 4:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd. Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i.
Hebreaid 4:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dŷn ni sydd wedi credu yn cael mynd yno. Mae Duw wedi dweud am y lleill, “Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw fyth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi.’” Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd. Mae wedi dweud yn rhywle am y seithfed dydd: “Ar y seithfed dydd dyma Duw yn gorffwys o’i holl waith.” Yn y dyfyniad cyntaf mae Duw’n dweud, “Chân nhw fyth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi.”
Hebreaid 4:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oblegid nyni, y rhai sydd wedi credu, sydd yn mynd i mewn i'r orffwysfa, yn unol â'r hyn a ddywedodd: “Felly tyngais yn fy nig, ‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ” Ac eto yr oedd ei waith wedi ei orffen er seiliad y byd. Oherwydd y mae gair yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn: “A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.” Felly hefyd yma: “Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.”