Hebreaid 4:15-16
Hebreaid 4:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac mae’n Archoffeiriad sy’n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl. Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.
Hebreaid 4:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â'n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod. Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
Hebreaid 4:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddioddef gyda’n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod. Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.