Hebreaid 4:1-2
Hebreaid 4:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly tra mae’r addewid gynnon ni ein bod yn gallu mynd i’r lle sy’n saff i orffwys, gadewch i ni fod yn ofalus fod neb o’n plith ni’n mynd i fethu cyrraedd yno. Mae’r newyddion da (fod lle saff i ni gael gorffwys) wedi cael ei gyhoeddi i ni hefyd, fel i’r bobl yn yr anialwch. Ond wnaeth y neges ddim gwahaniaeth iddyn nhw, am eu bod nhw ddim wedi credu pan glywon nhw.
Hebreaid 4:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gochelwn, felly, rhag i neb ohonoch fod wedi eich cau allan megis, a'r addewid yn aros y cawn ddod i mewn i'w orffwysfa ef. Oherwydd fe gyhoeddwyd y newyddion da, yn wir, i ni fel iddynt hwythau, ond ni bu'r gair a glywsant o unrhyw fudd iddynt hwy, am nad oeddent wedi eu huno mewn ffydd â'r sawl oedd wedi gwrando ar y gair.
Hebreaid 4:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl. Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant.