Hebreaid 4:1-11
Hebreaid 4:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gochelwn, felly, rhag i neb ohonoch fod wedi eich cau allan megis, a'r addewid yn aros y cawn ddod i mewn i'w orffwysfa ef. Oherwydd fe gyhoeddwyd y newyddion da, yn wir, i ni fel iddynt hwythau, ond ni bu'r gair a glywsant o unrhyw fudd iddynt hwy, am nad oeddent wedi eu huno mewn ffydd â'r sawl oedd wedi gwrando ar y gair. Oblegid nyni, y rhai sydd wedi credu, sydd yn mynd i mewn i'r orffwysfa, yn unol â'r hyn a ddywedodd: “Felly tyngais yn fy nig, ‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ” Ac eto yr oedd ei waith wedi ei orffen er seiliad y byd. Oherwydd y mae gair yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn: “A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.” Felly hefyd yma: “Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.” Felly, gan ei bod yn sicr y bydd rhai yn cael dod i mewn iddi, a chan fod y rhai y cyhoeddwyd y newyddion da iddynt gynt heb ddod i mewn oherwydd anufudd-dod, y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef “Heddiw”, gan lefaru trwy Ddafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o'r blaen: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau.” Oherwydd petai Josua wedi rhoi gorffwys iddynt, ni byddai Duw wedi sôn ar ôl hynny am ddiwrnod arall. Felly, y mae gorffwysfa'r Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw. Oherwydd mae pwy bynnag a ddaeth i mewn i'w orffwysfa ef yn gorffwys oddi wrth ei waith, fel y gorffwysodd Duw oddi wrth ei waith yntau. Gadewch inni ymdrechu, felly, i fynd i mewn i'r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio o achos yr un math o anufudd-dod.
Hebreaid 4:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly tra mae’r addewid gynnon ni ein bod yn gallu mynd i’r lle sy’n saff i orffwys, gadewch i ni fod yn ofalus fod neb o’n plith ni’n mynd i fethu cyrraedd yno. Mae’r newyddion da (fod lle saff i ni gael gorffwys) wedi cael ei gyhoeddi i ni hefyd, fel i’r bobl yn yr anialwch. Ond wnaeth y neges ddim gwahaniaeth iddyn nhw, am eu bod nhw ddim wedi credu pan glywon nhw. Dŷn ni sydd wedi credu yn cael mynd yno. Mae Duw wedi dweud am y lleill, “Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw fyth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi.’” Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd. Mae wedi dweud yn rhywle am y seithfed dydd: “Ar y seithfed dydd dyma Duw yn gorffwys o’i holl waith.” Yn y dyfyniad cyntaf mae Duw’n dweud, “Chân nhw fyth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi.” Felly mae’r lle saff i orffwys yn dal i fodoli, i rai pobl gael mynd yno. Ond wnaeth y rhai y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi iddyn nhw yn yr anialwch ddim cyrraedd am eu bod wedi bod yn anufudd. Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‘heddiw’ ydy’r cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhw’n gynharach: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig.” Petai Josua wedi rhoi’r lle saff oedd Duw’n ei addo iddyn nhw orffwys, fyddai dim sôn wedi bod am ddiwrnod arall. Felly, mae yna ‘orffwys y seithfed dydd’ sy’n dal i ddisgwyl pobl Dduw. Mae pawb sy’n cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys o’u gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e. Felly gadewch i ni wneud ein gorau glas i fynd i’r lle saff hwn lle cawn ni orffwys. Bydd unrhyw un sy’n gwrthod dilyn Duw yn syrthio, fel y gwnaeth y bobl yn yr anialwch.
Hebreaid 4:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl. Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant. Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd. Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i. Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth; Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau. Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall. Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw. Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau. Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth.