Hebreaid 3:7-13
Hebreaid 3:7-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, fel mae’r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch. Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd. Digiais gyda’r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw’n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’ Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi.’” Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi’n ‘heddiw’. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a’ch gwneud yn ystyfnig.
Hebreaid 3:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel, yn nydd y profi yn yr anialwch, lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd. Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dweud, ‘Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.’ Felly tyngais yn fy nig, ‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ” Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.
Hebreaid 3:7-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch: Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i: Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa. Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw. Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod.