Hebreaid 3:14-19
Hebreaid 3:14-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os daliwn ein gafael i’r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu’r cwbl sydd gan y Meseia. Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.” A phwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o’r Aifft? A gyda pwy roedd Duw’n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda’r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch! Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn? Felly dŷn ni’n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.
Hebreaid 3:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf. Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel.” Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses? Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch? Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd? Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.
Hebreaid 3:14-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd; Tra dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad. Canys rhai, wedi gwrando, a’i digiasant ef: ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses. Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch? Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef? onid wrth y rhai ni chredasant? Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.