Hebreaid 3:12-14
Hebreaid 3:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod. Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf.
Hebreaid 3:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi’n ‘heddiw’. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a’ch gwneud yn ystyfnig. Os daliwn ein gafael i’r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu’r cwbl sydd gan y Meseia.
Hebreaid 3:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw. Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod. Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd