Hebreaid 3:1-6
Hebreaid 3:1-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, frodyr a chwiorydd – chi sydd wedi’ch glanhau ac ar eich ffordd i’r nefoedd – meddyliwch am Iesu! Fe ydy’r negesydd oddi wrth Dduw a’r un dŷn ni’n ei dderbyn yn Archoffeiriad. Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo’i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.” Ond mae Iesu’n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy’n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na’r tŷ ei hun! Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy’n bod ydy Duw! Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw’n ei wneud yn y dyfodol. Ond mae’r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni’n bobl sy’n perthyn i’r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a’r gobaith dŷn ni’n ei frolio.
Hebreaid 3:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu, a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw. Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint â bod adeiladydd tŷ yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tŷ. Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth. Bu Moses yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru; ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd â rheolaeth ar dŷ Dduw. A ni yw ei dŷ ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo.
Hebreaid 3:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o’r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu; Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef. Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ. Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru; Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.