Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 2:6-18

Hebreaid 2:6-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol? Rwyt wedi’i wneud am ychydig yn is na’r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd. Ond dŷn ni’n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na’r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae’n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni. Duw wnaeth greu popeth, a fe sy’n cynnal popeth, felly mae’n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Drwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e’n arweinydd perffaith i’w hachub nhw. Mae’r un sy’n glanhau pobl, a’r rhai sy’n cael eu glanhau yn perthyn i’r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw’r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd. Mae’n dweud: “Bydda i’n dweud wrth fy mrodyr a’m chwiorydd pwy wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda’r rhai sy’n dy addoli.” Ac wedyn, “Dw i’n mynd i drystio Duw hefyd.” Ac eto, “Dyma fi, a’r plant mae Duw wedi’u rhoi i mi.” Gan ein bod ni’r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu’n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy’n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol. Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach. Pobl sy’n blant i Abraham mae Iesu’n eu helpu, nid angylion! Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a’i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai’n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw. Am ei fod e’i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae’n gallu’n helpu ni pan fyddwn ni’n wynebu temtasiwn.

Hebreaid 2:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Tystiolaethodd rhywun yn rhywle yn y geiriau hyn: “Beth yw dyn, iti ei gofio, a mab dyn, iti ofalu amdano? Gwnaethost ef am ryw ychydig yn is na'r angylion; coronaist ef â gogoniant ac anrhydedd. Darostyngaist bob peth dan ei draed ef.” Wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym hyd yma yn gweld pob peth wedi ei ddarostwng iddo; eithr yr ydym yn gweld Iesu, yr un a wnaed am ryw ychydig yn is na'r angylion, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd oherwydd iddo ddioddef marwolaeth, er mwyn iddo, trwy ras Duw, brofi marwolaeth dros bob dyn. Oherwydd yr oedd yn gweddu i Dduw, yr hwn y mae popeth yn bod er ei fwyn a phopeth yn bod drwyddo, wrth ddwyn pobl lawer i ogoniant, wneud tywysog eu hiachawdwriaeth yn berffaith trwy ddioddefiadau. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai sy'n cael eu sancteiddio, o'r un cyff y maent oll. Dyna pam nad oes arno gywilydd eu galw hwy'n berthnasau iddo'i hun. Y mae'n dweud: “Fe gyhoeddaf dy enw i'm perthnasau, a chanu mawl iti yng nghanol y gynulleidfa”; ac eto: “Ynddo ef y byddaf fi'n ymddiried”; ac eto fyth: “Wele fi a'r plant a roes Duw imi.” Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol, a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes. Yn sicr, gafael y mae yn nisgynyddion Abraham ac nid mewn angylion. Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl. Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae'n gallu cynorthwyo'r rhai sydd yn cael eu temtio.

Hebreaid 2:6-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef? Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo: Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo. Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn. Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai a sancteiddir, o’r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr; Gan ddywedyd, Myfi a fynegaf dy enw di i’m brodyr; yng nghanol yr eglwys y’th folaf di. A thrachefn, Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachefn, Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi. Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol; Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed. Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham a gymerodd efe. Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl. Canys yn gymaint â dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir.