Hebreaid 2:17-18
Hebreaid 2:17-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a’i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai’n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw. Am ei fod e’i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae’n gallu’n helpu ni pan fyddwn ni’n wynebu temtasiwn.
Hebreaid 2:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl. Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae'n gallu cynorthwyo'r rhai sydd yn cael eu temtio.
Hebreaid 2:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl. Canys yn gymaint â dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir.