Hebreaid 2:14-15
Hebreaid 2:14-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Gan ein bod ni’r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu’n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy’n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol. Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.
Hebreaid 2:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol, a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes.
Hebreaid 2:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol; Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed.