Hebreaid 2:10-11
Hebreaid 2:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Duw wnaeth greu popeth, a fe sy’n cynnal popeth, felly mae’n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Drwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e’n arweinydd perffaith i’w hachub nhw. Mae’r un sy’n glanhau pobl, a’r rhai sy’n cael eu glanhau yn perthyn i’r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw’r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd.
Hebreaid 2:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd yr oedd yn gweddu i Dduw, yr hwn y mae popeth yn bod er ei fwyn a phopeth yn bod drwyddo, wrth ddwyn pobl lawer i ogoniant, wneud tywysog eu hiachawdwriaeth yn berffaith trwy ddioddefiadau. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai sy'n cael eu sancteiddio, o'r un cyff y maent oll. Dyna pam nad oes arno gywilydd eu galw hwy'n berthnasau iddo'i hun.
Hebreaid 2:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai a sancteiddir, o’r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr