Hebreaid 2:1-9
Hebreaid 2:1-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando’n ofalus ar y neges dŷn ni wedi’i chlywed. Mae fel angor yn ein cadw ni rhag drifftio i ffwrdd gyda’r llif. Roedd y neges roddodd Duw i ni drwy angylion yn gwbl ddibynadwy, ac roedd pawb oedd yn torri’r Gyfraith neu’n anufudd yn cael beth oedden nhw’n ei haeddu. Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru’r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu. Ac roedd Duw yn profi fod beth roedden nhw’n ei ddweud yn wir drwy achosi i arwyddion rhyfeddol ddigwydd a phob math o wyrthiau. Fe oedd yn dewis rhoi’r Ysbryd Glân i alluogi pobl i wneud pethau fel hyn. A pheth arall – nid angylion sydd wedi cael yr awdurdod i reoli’r byd sydd i ddod. Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol? Rwyt wedi’i wneud am ychydig yn is na’r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd. Ond dŷn ni’n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na’r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae’n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni.
Hebreaid 2:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, rhaid i ni ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd, rhag inni fynd gyda'r llif. Oherwydd os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn sicr, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod ei gyfiawn dâl, pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth mor fawr—iachawdwriaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf drwy enau'r Arglwydd, a'i chadarnhau wedyn i ni gan y rhai oedd wedi ei glywed, a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau, a gwyrthiau amrywiol, a thrwy gyfraniadau'r Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun? Oherwydd nid i angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw, y byd yr ydym yn sôn amdano. Tystiolaethodd rhywun yn rhywle yn y geiriau hyn: “Beth yw dyn, iti ei gofio, a mab dyn, iti ofalu amdano? Gwnaethost ef am ryw ychydig yn is na'r angylion; coronaist ef â gogoniant ac anrhydedd. Darostyngaist bob peth dan ei draed ef.” Wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym hyd yma yn gweld pob peth wedi ei ddarostwng iddo; eithr yr ydym yn gweld Iesu, yr un a wnaed am ryw ychydig yn is na'r angylion, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd oherwydd iddo ddioddef marwolaeth, er mwyn iddo, trwy ras Duw, brofi marwolaeth dros bob dyn.
Hebreaid 2:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli. Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn daledigaeth; Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef: A Duw hefyd yn cyd-dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun? Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru. Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef? Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo: Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo. Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn.