Hebreaid 2:1-4
Hebreaid 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, rhaid i ni ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd, rhag inni fynd gyda'r llif. Oherwydd os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn sicr, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod ei gyfiawn dâl, pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth mor fawr—iachawdwriaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf drwy enau'r Arglwydd, a'i chadarnhau wedyn i ni gan y rhai oedd wedi ei glywed, a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau, a gwyrthiau amrywiol, a thrwy gyfraniadau'r Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?
Hebreaid 2:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando’n ofalus ar y neges dŷn ni wedi’i chlywed. Mae fel angor yn ein cadw ni rhag drifftio i ffwrdd gyda’r llif. Roedd y neges roddodd Duw i ni drwy angylion yn gwbl ddibynadwy, ac roedd pawb oedd yn torri’r Gyfraith neu’n anufudd yn cael beth oedden nhw’n ei haeddu. Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru’r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu. Ac roedd Duw yn profi fod beth roedden nhw’n ei ddweud yn wir drwy achosi i arwyddion rhyfeddol ddigwydd a phob math o wyrthiau. Fe oedd yn dewis rhoi’r Ysbryd Glân i alluogi pobl i wneud pethau fel hyn.
Hebreaid 2:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli. Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn daledigaeth; Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef: A Duw hefyd yn cyd-dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?