Hebreaid 13:5-6
Hebreaid 13:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi. Wedi’r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”
Hebreaid 13:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: “Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?”
Hebreaid 13:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.