Hebreaid 13:1-7
Hebreaid 13:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daliwch ati i garu’ch gilydd fel credinwyr. Peidiwch stopio’r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi – mae rhai pobl wedi croesawu angylion i’w cartrefi heb yn wybod! Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy’n cael eu cam-drin, fel tasech chi’ch hunain yn dioddef yr un fath. Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy’n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas. Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi. Wedi’r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?” Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw.
Hebreaid 13:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded i frawdgarwch barhau. Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion. Cofiwch y carcharorion, fel pe byddech yn y carchar gyda hwy; a'r rhai a gamdrinnir, fel pobl sydd â chyrff gennych eich hunain. Bydded priodas mewn parch gan bawb, a'r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr. Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: “Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?” Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd.
Hebreaid 13:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Parhaed brawdgarwch. Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.