Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 13:1-21

Hebreaid 13:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bydded i frawdgarwch barhau. Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion. Cofiwch y carcharorion, fel pe byddech yn y carchar gyda hwy; a'r rhai a gamdrinnir, fel pobl sydd â chyrff gennych eich hunain. Bydded priodas mewn parch gan bawb, a'r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr. Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: “Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?” Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd. Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth. Peidiwch â chymryd eich camarwain gan athrawiaethau amrywiol a dieithr; oherwydd da yw i'r galon gael ei chadarnhau gan ras, ac nid gan fwydydd na fuont o unrhyw les i'r rhai oedd yn ymwneud â hwy. Y mae gennym ni allor nad oes gan wasanaethwyr y tabernacl ddim hawl i fwyta ohoni. Y mae cyrff yr anifeiliaid hynny, y dygir eu gwaed dros bechod i'r cysegr gan yr archoffeiriad, yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll. Felly Iesu hefyd, dioddef y tu allan i'r porth a wnaeth ef, er mwyn sancteiddio'r bobl trwy ei waed ei hun. Am hynny, gadewch inni fynd ato ef y tu allan i'r gwersyll, gan oddef y gwaradwydd a oddefodd ef. Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod. Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw. Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu ag eraill; oherwydd ag aberthau fel hyn y rhyngir bodd Duw. Ufuddhewch i'ch arweinwyr, ac ildiwch iddynt, oherwydd y maent hwy'n gwylio'n ddiorffwys dros eich eneidiau, fel rhai sydd i roi cyfrif. Gadewch iddynt allu gwneud hynny'n llawen, ac nid yn ofidus, oherwydd di-fudd i chwi fyddai hynny. Gweddïwch drosom ni; oherwydd yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod lân, am ein bod yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth. Yr wyf yn erfyn yn daerach arnoch i wneud hyn, er mwyn imi gael fy adfer i chwi yn gynt. Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, eich cymhwyso â phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.

Hebreaid 13:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Daliwch ati i garu’ch gilydd fel credinwyr. Peidiwch stopio’r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi – mae rhai pobl wedi croesawu angylion i’w cartrefi heb yn wybod! Daliwch ati i gofio’r rheiny sy’n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy’n cael eu cam-drin, fel tasech chi’ch hunain yn dioddef yr un fath. Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy’n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas. Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi. Wedi’r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?” Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw. Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser – ddoe, heddiw ac am byth! Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy’n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy’n iawn i’w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly’n gwneud lles i neb! Mae gynnon ni aberth does gan yr offeiriaid sy’n gweini dan yr hen drefn ddim hawl i fwyta ohoni. Dan yr hen drefn mae’r archoffeiriad yn mynd â gwaed anifeiliaid i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd fel offrwm dros bechod, ond mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu llosgi y tu allan i’r gwersyll. A’r un fath, roedd rhaid i Iesu ddioddef y tu allan i waliau’r ddinas er mwyn glanhau’r bobl drwy dywallt ei waed ei hun. Felly gadewch i ninnau fynd ato, y tu allan i’r gwersyll, a bod yn barod i ddioddef amarch fel gwnaeth Iesu ei hun. Dim y byd hwn ydy’n dinas ni! Dŷn ni’n edrych ymlaen at y ddinas yn y nefoedd, sef yr un sydd i ddod. Felly, gadewch i ni foli Duw drwy’r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni’n eu cyflwyno iddo ydy’r mawl mae e’n ei haeddu. A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu’ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae’r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn. Byddwch yn ufudd i’ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw’n ei ddweud. Mae’n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw’n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny’n sicr o ddim lles i chi. Peidiwch stopio gweddïo droson ni. Mae’n cydwybod ni’n glir, a dŷn ni’n ceisio gwneud beth sy’n iawn bob amser. Dw i’n arbennig eisiau i chi weddïo y ca i ddod yn ôl i’ch gweld chi’n fuan. Dw i’n gweddïo y bydd Duw, sy’n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy’r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Drwy farw’n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i’n gweddïo y bydd Duw, drwy’r Meseia Iesu, yn ein galluogi ni i wneud beth sy’n ei blesio fe. Mae’n haeddu ei foli am byth! Amen!

Hebreaid 13:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Parhaed brawdgarwch. Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd. Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd. Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta. Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll. Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth. Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef. Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef. Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di-fudd i chwi yw hynny. Gweddïwch drosom ni: canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth. Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt. A Duw’r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.