Hebreaid 12:26-28
Hebreaid 12:26-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth fynydd Sinai roedd llais Duw yn ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi dweud: “Unwaith eto dw i’n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.” Mae’r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd – sy’n bethau wedi’u creu – i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros. A dyna sut deyrnas dŷn ni’n ei derbyn! – un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni – gyda pharch a rhyfeddod, am mai
Hebreaid 12:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Siglodd ei lais y ddaear y pryd hwnnw, ond yn awr y mae wedi addo, “Unwaith eto yr wyf fi am ysgwyd, nid yn unig y ddaear ond y nefoedd hefyd.” Ond y mae'r geiriau, “Unwaith eto”, yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i'r pethau na siglir aros. Felly, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, gadewch inni fod yn ddiolchgar, a thrwy hynny wasanaethu Duw wrth ei fodd, â pharch ac ofn duwiol.
Hebreaid 12:26-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir. Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi-sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn