Hebreaid 12:25-29
Hebreaid 12:25-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando’n ofalus ar Dduw, yr un sy’n siarad â chi. Os wnaeth pobl Israel ddim dianc pan wrthodon nhw wrando ar Moses, yr un o’r ddaear oedd yn eu rhybuddio nhw, pa obaith sydd i ni os ydyn ni’n troi’n cefnau ar Iesu, yr Un o’r nefoedd sydd wedi’n rhybuddio ni! Wrth fynydd Sinai roedd llais Duw yn ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi dweud: “Unwaith eto dw i’n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.” Mae’r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd – sy’n bethau wedi’u creu – i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros. A dyna sut deyrnas dŷn ni’n ei derbyn! – un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni – gyda pharch a rhyfeddod, am mai “Tân sy’n difa ydy Duw.”
Hebreaid 12:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyliwch beidio â gwrthod yr hwn sydd yn llefaru, oherwydd os na ddihangodd y rhai a wrthododd yr hwn oedd yn eu rhybuddio ar y ddaear, mwy o lawer ni bydd dianc i ni os byddwn yn troi oddi wrth yr hwn sy'n ein rhybuddio o'r nefoedd. Siglodd ei lais y ddaear y pryd hwnnw, ond yn awr y mae wedi addo, “Unwaith eto yr wyf fi am ysgwyd, nid yn unig y ddaear ond y nefoedd hefyd.” Ond y mae'r geiriau, “Unwaith eto”, yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i'r pethau na siglir aros. Felly, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, gadewch inni fod yn ddiolchgar, a thrwy hynny wasanaethu Duw wrth ei fodd, â pharch ac ofn duwiol. Oherwydd yn wir, tân yn ysu yw ein Duw ni.
Hebreaid 12:25-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef: Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir. Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi-sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn: Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol.