Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 12:18-29

Hebreaid 12:18-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn wahanol i bobl Israel, dych chi ddim wedi dod at bethau y gallwch eu teimlo – mynydd gyda thân yn llosgi arno, tywyllwch, caddug a storm wyllt. Does dim sŵn utgorn, na llais i’ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai. Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw. Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.” Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i’n crynu drwyddo i mewn ofn.” Na! At Fynydd Seion dych chi wedi dod – sef at ddinas y Duw byw! Dyma’r Jerwsalem nefol! Yma mae miloedd ar filoedd o angylion wedi dod at ei gilydd i addoli a dathlu. Yma mae’r bobl hynny sydd â’u henwau wedi’u cofrestru yn y nefoedd – sef y rhai sydd i dderbyn y bendithion, fel y ‘mab hynaf’. Yma hefyd mae Duw, Barnwr pawb. Yma mae’r bobl gyfiawn hynny fuodd farw, a sydd bellach wedi’u perffeithio. Yma hefyd mae Iesu, y canolwr wnaeth selio’r ymrwymiad newydd. Yma mae ei waed wedi’i daenellu – y gwaed sy’n dweud rhywbeth llawer mwy grymus na gwaed Abel. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando’n ofalus ar Dduw, yr un sy’n siarad â chi. Os wnaeth pobl Israel ddim dianc pan wrthodon nhw wrando ar Moses, yr un o’r ddaear oedd yn eu rhybuddio nhw, pa obaith sydd i ni os ydyn ni’n troi’n cefnau ar Iesu, yr Un o’r nefoedd sydd wedi’n rhybuddio ni! Wrth fynydd Sinai roedd llais Duw yn ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi dweud: “Unwaith eto dw i’n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.” Mae’r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd – sy’n bethau wedi’u creu – i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros. A dyna sut deyrnas dŷn ni’n ei derbyn! – un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni – gyda pharch a rhyfeddod, am mai “Tân sy’n difa ydy Duw.”

Hebreaid 12:18-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oherwydd nid ydych chwi wedi dod at ddim y gellir ei gyffwrdd, at dân sydd yn llosgi, at gaddug a thywyllwch a thymestl, at floedd utgorn, a llef yn rhoi gorchymyn nes i'r rhai a'i clywodd ymbil am i'r llefaru beidio, am na allent oddef y gorchymyn: “Os bydd anifail, hyd yn oed, yn cyffwrdd â'r mynydd, rhaid ei labyddio.” A chan mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, “Y mae arnaf arswyd a chryndod.” Ond at Fynydd Seion yr ydych chwi wedi dod, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol; ac at fyrddiynau o angylion yn cadw gŵyl, a chynulleidfa y rhai cyntafanedig sydd â'u henwau'n ysgrifenedig yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu, cyfryngwr y cyfamod newydd, ac at waed y taenellu, sydd yn llefaru'n gryfach na gwaed Abel. Gwyliwch beidio â gwrthod yr hwn sydd yn llefaru, oherwydd os na ddihangodd y rhai a wrthododd yr hwn oedd yn eu rhybuddio ar y ddaear, mwy o lawer ni bydd dianc i ni os byddwn yn troi oddi wrth yr hwn sy'n ein rhybuddio o'r nefoedd. Siglodd ei lais y ddaear y pryd hwnnw, ond yn awr y mae wedi addo, “Unwaith eto yr wyf fi am ysgwyd, nid yn unig y ddaear ond y nefoedd hefyd.” Ond y mae'r geiriau, “Unwaith eto”, yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i'r pethau na siglir aros. Felly, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, gadewch inni fod yn ddiolchgar, a thrwy hynny wasanaethu Duw wrth ei fodd, â pharch ac ofn duwiol. Oherwydd yn wir, tân yn ysu yw ein Duw ni.

Hebreaid 12:18-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl, A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt: (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell. Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.) Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion, I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, Ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel. Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef: Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir. Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi-sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn: Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol.