Haggai 2:1-9
Haggai 2:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai: “Dywed wrth Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac wrth Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, ‘A adawyd un yn eich plith a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? Sut yr ydych chwi yn ei weld yn awr? Onid megis dim yn eich golwg? Yn awr, ymgryfha, Sorobabel,’ ” medd yr ARGLWYDD, “ ‘ac ymgryfha, Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir,’ ” medd yr ARGLWYDD. “ ‘Gweithiwch, oherwydd yr wyf fi gyda chwi,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ ‘yn unol â'r addewid a wneuthum i chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft. Y mae fy ysbryd yn aros yn eich plith; peidiwch ag ofni.’ ” Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Unwaith eto, ymhen ychydig, yr wyf am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r sychdir, ac ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn, a llanwaf y tŷ hwn â gogoniant,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Eiddof fi yr arian a'r aur,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
Haggai 2:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna ar yr unfed ar hugain o’r seithfed mis yn yr ail flwyddyn i’r Brenin Dareius deyrnasu, dyma’r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: “Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a’r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dwed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd: ‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm, yn ei holl ysblander? A sut mae’n edrych i chi nawr? Dim byd o’i chymharu mae’n siŵr! Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb,’ – meddai’r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’” “Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i’n mynd i ysgwyd y nefoedd a’r ddaear, y môr a’r tir. Bydda i’n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw’n dod ac yn cyflwyno’u trysorau, a bydda i’n llenwi’r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Fi piau’r arian, a fi piau’r aur,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o’r blaen,’ – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus; ‘a bydda i’n dod â llwyddiant a heddwch i’r lle yma.’ Ydy, mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi dweud.”
Haggai 2:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd, Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd, Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim? Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd: Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear, a’r môr, a’r sychdir; Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd ARGLWYDD y lluoedd. Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd ARGLWYDD y lluoedd. Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf, medd ARGLWYDD y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.