Habacuc 2:1-3
Habacuc 2:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio, ac edrych allan o wal y ddinas. Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud, a sut fydd e’n ateb y gŵyn sydd gen i.” ARGLWYDD A dyma’r ARGLWYDD yn ateb: “Ysgrifenna’r neges yma yn glir ar lechi, i’r negeswr sy’n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd. Mae’n weledigaeth o beth sy’n mynd i ddigwydd; mae’n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e’n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar – mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.
Habacuc 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Safaf ar fy nisgwylfa, a chymryd fy safle ar y tŵr; syllaf i weld beth a ddywed wrthyf, a beth fydd ei ateb i'm cwyn. Atebodd yr ARGLWYDD fi: “Ysgrifenna'r weledigaeth, a gwna hi'n eglur ar lechen, fel y gellir ei darllen wrth redeg; oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser— daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
Habacuc 2:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y’m cerydder. A’r ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno. Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda.