Habacuc 1:2-4
Habacuc 1:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw cyn i ti fy ateb i? Dw i’n gweiddi, ‘Trais!’ ond ti ddim yn achub. Pam wyt ti’n caniatáu y fath anghyfiawnder? Pam wyt ti’n gadael i’r fath ddrygioni fynd yn ei flaen? Does dim i’w weld ond dinistr a thrais! Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro! Mae’r gyfraith wedi colli ei grym, a does dim cyfiawnder byth. Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed, a chyfiawnder wedi’i dwistio’n gam.”
Habacuc 1:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, “Trais!” a thithau heb waredu? Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o'm blaen, cynnen a therfysg yn codi. Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
Habacuc 1:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.