Genesis 9:12-17
Genesis 9:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dw i’n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i’n ei wneud yn mynd i bara am byth: Dw i’n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud gyda’r ddaear. Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i’w gweld yn y cymylau, bydda i’n cofio’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto. Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i’n cofio’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.” A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma’r arwydd sy’n dangos y bydda i’n cadw’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”
Genesis 9:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif: gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear. Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl, a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd. Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.” Dywedodd Duw wrth Noa, “Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear.”
Genesis 9:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol: Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear. A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl. A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd. A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear. A DUW a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.