Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 9:1-29

Genesis 9:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Duw yn bendithio Noa a’i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear. Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a’r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw. Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o’r blaen. Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed). Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy’n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy’n gwneud hynny. A rhaid i berson sy’n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i’w gilydd. Mae rhywun sy’n lladd person arall yn haeddu cael ei ladd ei hun, am fod Duw wedi creu’r ddynoliaeth yn ddelw ohono’i hun. Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy’r byd i gyd.” A dyma Duw yn dweud wrth Noa a’i feibion, “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a’ch disgynyddion, a hefyd gyda phob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o’r arch. Dw i’n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio’r ddaear. A dw i’n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i’n ei wneud yn mynd i bara am byth: Dw i’n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud gyda’r ddaear. Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i’w gweld yn y cymylau, bydda i’n cofio’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto. Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i’n cofio’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.” A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma’r arwydd sy’n dangos y bydda i’n cadw’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.” Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o’r arch. (Cham oedd tad Canaan.) Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw. Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan. Yfodd Noa beth o’r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell. Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna’n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr. Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a’i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw’n cerdded at yn ôl i mewn i’r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw’n edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth. Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi’i wneud, ac meddai, “Melltith ar Canaan! Bydd fel caethwas dibwys i’w frodyr.” Wedyn dwedodd Noa, “Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem! Bydd Canaan yn gaethwas iddo. Boed i Dduw roi digonedd o le i Jaffeth, a gwneud iddo gyd-fyw’n heddychlon gyda Shem. A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.” Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw. Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw.

Genesis 9:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear. Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod. Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth. Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo. Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall. “A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau; oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun. Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.” Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud, “Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl, ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch. Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.” A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif: gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear. Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl, a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd. Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.” Dywedodd Duw wrth Noa, “Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear.” Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan. Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear. Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan, ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell. Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan; ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad. Pan ddeffrôdd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo, dywedodd, “Melltigedig fyddo Canaan; gwas i weision ei frodyr fydd.” Dywedodd hefyd, “Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem; bydded Canaan yn was iddo. Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem; bydded Canaan yn was iddo.” Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd. Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.

Genesis 9:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

DUW hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear. Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt. Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim. Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed. Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn. A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn. Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi. A DUW a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd, Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi; Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear. A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear. A DUW a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol: Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear. A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl. A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd. A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng DUW a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear. A DUW a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear. A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan. Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear. A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan: Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell. A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan. A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad. A Noa a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo. Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd. Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Sem; a Chanaan fydd was iddo ef. DUW a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef. A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain. Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.