Genesis 8:1-4
Genesis 8:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofiodd Duw am Noa a'r holl fwystfilod a'r holl anifeiliaid oedd gydag ef yn yr arch. Parodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gostyngodd y dyfroedd; caewyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd, ac ataliwyd y glaw o'r nef. Ciliodd y dyfroedd yn raddol oddi ar y ddaear, ac wedi cant a hanner o ddyddiau aeth y dyfroedd ar drai. Yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
Genesis 8:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a’r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr. Dyma’r ffynhonnau dŵr tanddaearol a’r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi’n stopio glawio. Dechreuodd y dŵr fynd i lawr. Bum mis union ar ôl i’r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
Genesis 8:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A DUW a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a DUW a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant. Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd. A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai. Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.