Genesis 8:1-12
Genesis 8:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a’r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr. Dyma’r ffynhonnau dŵr tanddaearol a’r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi’n stopio glawio. Dechreuodd y dŵr fynd i lawr. Bum mis union ar ôl i’r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. Ddau fis a hanner wedyn, wrth i’r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o’r mynyddoedd eraill i’r golwg. Pedwar deg diwrnod ar ôl i’r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi’n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear. Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld a oedd y dŵr wedi mynd. Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i’r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio’r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i’r arch. Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto. Y tro yma, pan oedd hi’n dechrau nosi, dyma’r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa’n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd. Yna arhosodd am wythnos arall cyn anfon y golomen allan eto, a’r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.
Genesis 8:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofiodd Duw am Noa a'r holl fwystfilod a'r holl anifeiliaid oedd gydag ef yn yr arch. Parodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gostyngodd y dyfroedd; caewyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd, ac ataliwyd y glaw o'r nef. Ciliodd y dyfroedd yn raddol oddi ar y ddaear, ac wedi cant a hanner o ddyddiau aeth y dyfroedd ar drai. Yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. Ciliodd y dyfroedd yn raddol hyd y degfed mis; ac yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth pennau'r mynyddoedd i'r golwg. Ymhen deugain diwrnod agorodd Noa y ffenestr yr oedd wedi ei gwneud yn yr arch, ac anfon allan gigfran i weld a oedd y dyfroedd wedi treio, ac aeth hithau yma ac acw nes i'r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear. Yna gollyngodd golomen i weld a oedd y dyfroedd wedi treio oddi ar wyneb y tir; ond ni chafodd y golomen le i roi ei throed i lawr, a dychwelodd ato i'r arch am fod dŵr dros wyneb yr holl ddaear. Estynnodd yntau ei law i'w derbyn, a'i chymryd ato i'r arch. Arhosodd eto saith diwrnod, ac anfonodd y golomen eilwaith o'r arch. Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr, yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd newydd ei thynnu; a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddi ar y ddaear. Arhosodd eto saith diwrnod; anfonodd allan y golomen, ond ni ddaeth yn ôl ato y tro hwn.
Genesis 8:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A DUW a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a DUW a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant. Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd. A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai. Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau’r mynyddoedd. Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe. Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear. Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear. Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd hi, ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch. Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch. A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear. Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.