Genesis 6:5-7
Genesis 6:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan welodd yr ARGLWYDD fod drygioni'r bobl yn fawr ar y ddaear, a bod holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg, bu edifar gan yr ARGLWYDD iddo wneud dyn ar y ddaear, a gofidiodd yn fawr. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dileaf oddi ar wyneb y ddaear y bobl a greais, ie, dyn ac anifail, ymlusgiaid ac adar yr awyr, oherwydd y mae'n edifar gennyf imi eu gwneud.”
Genesis 6:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw’n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy’r amser. Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu’r ddynoliaeth. Roedd wedi’i frifo a’i ddigio. Felly dyma fe’n dweud, “Dw i’n mynd i gael gwared â’r ddynoliaeth yma dw i wedi’i chreu. Ydw, a’r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a’r adar hefyd. Dw i’n sori mod i wedi’u creu nhw yn y lle cyntaf.”
Genesis 6:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.