Genesis 50:20-21
Genesis 50:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl. Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach.” A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.
Genesis 50:20-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd arno eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi’n weld heddiw. Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a’ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw drwy siarad yn garedig gyda nhw.
Genesis 50:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond DUW a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer. Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.