Genesis 50:14-21
Genesis 50:14-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl claddu ei dad, aeth Joseff yn ôl i’r Aifft gyda’i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd. Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu’r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?” Felly dyma nhw’n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw, ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe’n dechrau crio. Yna daeth ei frodyr a syrthio o’i flaen, a dweud, “Byddwn ni’n gaethweision i ti.” Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i? Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd arno eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi’n weld heddiw. Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a’ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw drwy siarad yn garedig gyda nhw.
Genesis 50:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad. Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, “Efallai y bydd Joseff yn ein casáu ni, ac yn talu'n ôl yr holl ddrwg a wnaethom iddo.” A daethant at Joseff, a dweud, “Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw, ‘Dywedwch wrth Joseff, “Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti.” ’ Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad.” Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef. Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Yr ydym yn weision i ti.” Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw? Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl. Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach.” A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.
Genesis 50:14-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dychwelodd Joseff i’r Aifft, efe, a’i frodyr, a’r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad. Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef. A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision DUW dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho. A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti. A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle DUW? Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond DUW a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer. Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.