Genesis 46:31-34
Genesis 46:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Joseff wrth ei frodyr a theulu ei dad, “Mi af i ddweud wrth Pharo fod fy mrodyr a theulu fy nhad wedi dod ataf o wlad Canaan, ac mai bugeiliaid a pherchenogion anifeiliaid ydynt, a'u bod wedi dod â'u preiddiau, eu gyrroedd a'u holl eiddo gyda hwy. Felly pan fydd Pharo yn galw amdanoch i holi beth yw eich galwedigaeth, atebwch chwithau, ‘Bu dy weision o'u hieuenctid hyd heddiw yn berchenogion anifeiliaid, fel ein tadau.’ Hyn er mwyn ichwi gael aros yng ngwlad Gosen, oherwydd y mae'r Eifftiaid yn ffieiddio pob bugail.”
Genesis 46:31-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr a theulu ei dad, “Rhaid i mi ddweud wrth y Pharo eich bod chi wedi dod yma ata i o wlad Canaan. Bydd rhaid i mi ddweud eich bod chi’n fugeiliaid ac yn cadw anifeiliaid, a’ch bod chi wedi dod â’ch preiddiau a’ch anifeiliaid i gyd gyda chi. Os bydd y Pharo eisiau’ch gweld chi, ac yn gofyn ‘Beth ydy’ch gwaith chi?’ dwedwch wrtho, ‘Mae dy weision wedi bod yn cadw anifeiliaid ar hyd eu bywydau. Dyna mae’r teulu wedi’i wneud ers cenedlaethau.’ Dwedwch hyn er mwyn i chi gael symud i fyw i ardal Gosen. Mae bugeiliaid yn tabŵ i’r Eifftiaid.”
Genesis 46:31-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi. A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt. A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith? Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.