Genesis 44:1-17
Genesis 44:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Joseff yn dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Llanw sachau’r dynion â chymaint o ŷd ag y gallan nhw ei gario. Wedyn rho arian pob un ohonyn nhw yng ngheg ei sach. Rho fy nghwpan i, sef y gwpan arian, yng ngheg sach yr ifancaf ohonyn nhw, gyda’i arian am yr ŷd.” A dyma’r prif swyddog yn gwneud fel dwedodd Joseff. Wrth iddi wawrio’r bore wedyn, cychwynnodd y dynion ar eu taith adre gyda’r asynnod. Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o’r ddinas, pan ddwedodd Joseff wrth ei brif swyddog, “Dos ar ôl y dynion yna! Pan fyddi di wedi’u dal nhw, gofyn iddyn nhw, ‘Pam dych chi wedi gwneud drwg i mi ar ôl i mi fod mor garedig atoch chi?’ Gofyn pam maen nhw wedi dwyn fy nghwpan arian i. Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma’r gwpan mae fy meistr yn yfed ohoni ac yn darogan y dyfodol gyda hi. Dych chi wedi gwneud peth drwg iawn!’” Pan ddaliodd y swyddog nhw, dyna ddwedodd e wrthyn nhw. A dyma nhw’n ei ateb, “Syr, sut alli di ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn meiddio gwneud peth felly. Daethon ni â’r arian gawson ni yng ngheg ein sachau yn ôl o wlad Canaan. Felly pam fydden ni eisiau dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr? Os ydy’r gwpan gan unrhyw un ohonon ni, dylai hwnnw farw, a bydd y gweddill ohonon ni’n gaethweision i’n meistr.” “Iawn; chi sy’n dweud y dylech gael eich cosbi,” meddai. “Bydd pwy bynnag mae’r gwpan ganddo yn dod yn gaethwas i mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd yn rhydd.” Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor. Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda’r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin. Dyma nhw’n rhwygo’u dillad. Yna dyma nhw’n llwytho’r asynnod eto, a mynd yn ôl i’r ddinas. Pan gyrhaeddodd Jwda a’i frodyr dŷ Joseff, roedd e’n dal yno. A dyma nhw’n syrthio ar eu gliniau o’i flaen. Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam dych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy’n digwydd?” A dyma Jwda’n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni’n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a’r un roedd y gwpan ganddo.” Ond dyma Joseff yn dweud, “Faswn i byth yn gwneud y fath beth! Yr un roedd y gwpan ganddo fydd yn gaethwas i mi. Mae’r gweddill ohonoch chi yn rhydd i fynd adre at eich tad.”
Genesis 44:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gorchmynnodd Joseff i swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint ag y gallant ei gario o fwyd, a rho arian pob un yng ngenau ei sach. A rho fy nghwpan i, y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuengaf, gyda'i arian am yr ŷd.” Gwnaeth yntau fel y dywedodd Joseff. Pan dorrodd y wawr, anfonwyd y dynion ymaith gyda'u hasynnod. Wedi iddynt fynd ychydig bellter o'r ddinas dywedodd Joseff wrth swyddog ei dŷ, “I ffwrdd â thi ar ôl y dynion, a phan oddiweddi hwy dywed wrthynt, ‘Pam yr ydych wedi talu drwg am dda? Pam yr ydych wedi lladrata fy nghwpan arian? O hwn y byddai f'arglwydd yn yfed ac yn dewino. Yr ydych wedi gwneud peth drwg.’ ” Pan oddiweddodd hwy dywedodd felly wrthynt. Atebasant hwythau, “Pam y mae ein harglwydd yn dweud peth fel hyn? Ni fyddai dy weision byth yn gwneud y fath beth. Cofia ein bod wedi dod â'r arian a gawsom yng ngenau ein sachau yn ôl atat o wlad Canaan. Pam felly y byddem yn lladrata arian neu aur o dŷ dy arglwydd? Os ceir y cwpan gan un o'th weision, bydded hwnnw farw; a byddwn ninnau'n gaethion i'n harglwydd.” “O'r gorau,” meddai yntau, “bydded fel y dywedwch chwi. Bydd yr un y ceir y cwpan ganddo yn gaethwas i mi, ond bydd y gweddill ohonoch yn rhydd.” Yna tynnodd pob un ei sach i lawr ar unwaith, a'i agor. Chwiliodd yntau, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, a chafwyd y cwpan yn sach Benjamin. Rhwygasant eu dillad, a llwythodd pob un ei asyn a dychwelyd i'r ddinas. Pan ddaeth Jwda a'i frodyr i'r tŷ, yr oedd Joseff yno o hyd, a syrthiasant i lawr o'i flaen. Dywedodd Joseff wrthynt, “Beth yw hyn yr ydych wedi ei wneud? Oni wyddech fod dyn fel fi yn gallu dewino?” Atebodd Jwda, “Beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? Beth a lefarwn? Sut y gallwn brofi ein diniweidrwydd? Y mae Duw wedi dangos twyll dy weision. Dyma ni, a'r un yr oedd y cwpan ganddo, yn gaethion i'n harglwydd.” Ond dywedodd Joseff, “Ni allaf wneud peth felly. Dim ond yr un yr oedd y cwpan ganddo a fydd yn gaethwas i mi. Cewch chwi fynd mewn heddwch at eich tad.”
Genesis 44:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau’r gwŷr o fwyd, cymaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un yng ngenau ei sach. A dod fy nghwpan fy hun, sef y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuangaf, gydag arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff, yr hwn a ddywedasai efe. Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod. Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant nepell, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda? Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch. Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy. Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato DUW i’th weision di wneuthur y cyfryw beth. Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di? Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i’m harglwydd. Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog. Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan. Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin. Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas. A daeth Jwda a’i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef. A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth? A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd DUW allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ie nyni, a’r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd. Yntau a ddywedodd, Na ato DUW i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.