Genesis 43:23-28
Genesis 43:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd yntau, “Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian.” Yna daeth â Simeon allan atynt. Wedi i'r swyddog fynd â'r dynion i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddynt i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i'w hasynnod. Gwnaethant eu hanrheg yn barod erbyn i Joseff ddod ganol dydd, am iddynt glywed mai yno y byddent yn cael bwyd. Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen. Holodd yntau hwy am eu hiechyd, a gofyn, “A yw eich tad yn iawn, yr hen ŵr y buoch yn sôn amdano? A yw'n dal yn fyw?” Atebasant, “Y mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” A phlygasant eu pennau ac ymgrymu.
Genesis 43:23-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae popeth yn iawn,” meddai’r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae’n rhaid bod eich Duw chi, a Duw eich tad, wedi rhoi’r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe’n dod â Simeon allan atyn nhw. Ar ôl i’r swyddog fynd â nhw i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a bwydodd eu hasynnod nhw. A dyma nhw’n paratoi’r anrheg ar gyfer pan fyddai Joseff yn dod ganol dydd. Roedden nhw wedi clywed eu bod nhw’n mynd i fwyta gydag e. Pan ddaeth Joseff adre, dyma nhw’n cyflwyno’r anrhegion iddo, ac yn ymgrymu o’i flaen. Gofynnodd iddyn nhw sut oedden nhw. “Sut mae’ch tad yn cadw?” meddai. “Roeddech chi’n dweud ei fod mewn oed. Ydy e’n dal yn fyw?” “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach,” medden nhw. A dyma nhw’n ymgrymu yn isel o’i flaen.
Genesis 43:23-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich DUW chwi, a DUW eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy. A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt. Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara. Pan ddaeth Joseff i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr. Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto? Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni; byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant.