Genesis 42:35-38
Genesis 42:35-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan aethant i wacáu eu sachau yr oedd cod arian pob un yn ei sach. A phan welsant hwy a'u tad y codau arian, daeth ofn arnynt, a dywedodd eu tad Jacob wrthynt, “Yr ydych yn fy ngwneud yn ddi-blant; bu farw Joseff, nid yw Simeon yma, ac yr ydych am ddwyn Benjamin ymaith. Y mae pob peth yn fy erbyn.” Dywedodd Reuben wrth ei dad, “Cei ladd fy nau fab i os na ddof ag ef yn ôl atat; rho ef yn fy ngofal, ac mi ddof ag ef yn ôl atat.” Meddai yntau, “Ni chaiff fy mab fynd gyda chwi, oherwydd bu farw ei frawd, ac nid oes neb ond ef ar ôl. Os digwydd niwed iddo ar eich taith, fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.”
Genesis 42:35-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn aethon nhw ati i wagio eu sachau. A dyna lle roedd cod arian pob un yn ei sach. Pan welon nhw a’u tad y codau arian roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Dych chi’n fy ngwneud i’n ddi-blant fel hyn,” meddai Jacob. “Mae Joseff wedi mynd. Mae Simeon wedi mynd. A nawr dych chi am gymryd Benjamin oddi arna i! Mae popeth yn fy erbyn i.” Yna dyma Reuben yn dweud wrth ei dad, “Gad i mi fod yn gyfrifol amdano. Dof i ag e’n ôl. Os gwna i ddim dod ag e’n ôl atat ti, cei ladd fy nau fab i.” Ond meddai Jacob, “Na, dydy fy mab i ddim yn mynd gyda chi. Mae ei frawd wedi marw, a dim ond fe sydd ar ôl. Dw i’n hen ddyn. Petai rhywbeth yn digwydd iddo ar y daith, byddai’r golled yn ddigon i’m gyrru i’r bedd.”
Genesis 42:35-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant. A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll. A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef atat ti eilwaith. Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.