Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 4:10-26

Genesis 4:10-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi’i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o’r pridd. Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd. Byddi’n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi’n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.” Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae’r gosb yn ormod i mi ei chymryd! Ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o’r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i’n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy’n dod o hyd i mi yn fy lladd.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy’n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma’r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai’n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai’n dod o hyd iddo. Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod i’r dwyrain o Eden. Cysgodd Cain gyda’i wraig, a dyma hi’n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i’w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‘Enoch’ ar ôl ei fab. Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwiael, Mechwiael yn dad i Methwshael, a Methwshael yn dad i Lamech. Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig iddo’i hun – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall. Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid. Roedd ganddo frawd o’r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu’r delyn a’r ffliwt. Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o’r enw Naamâ. Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd: “Ada a Sila, gwrandwch arna i! Wragedd Lamech, sylwch beth dw i’n ddweud: Byddwn i’n lladd dyn am fy anafu i, neu blentyn am fy nharo i. Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth, bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!” Cysgodd Adda gyda’i wraig eto, a chafodd hi fab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.” Cafodd Seth fab, a’i alw yn Enosh. Dyna pryd y dechreuodd pobl addoli’r ARGLWYDD.

Genesis 4:10-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

A dywedodd Duw, “Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd. Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law. Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear.” Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn. Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th ŵydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith.” A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddôi ar ei draws ei ladd. Yna aeth Cain ymaith o ŵydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden. Cafodd Cain gyfathrach â'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar ôl ei fab, Enoch. Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech. Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail. Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail. Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib. Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain. A dywedodd Lamech wrth ei wragedd: “Ada a Sila, clywch fy llais; chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; lleddais ŵr am fy archolli, a llanc am fy nghleisio. Os dielir am Cain seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.” Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, “Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd.” I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.

Genesis 4:10-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dywedodd DUW, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear. Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di. Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. Yna y dywedodd Cain wrth yr ARGLWYDD, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau. Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r ARGLWYDD a osododd nod ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef. A Chain a aeth allan o ŵydd yr ARGLWYDD, ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden. Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch. Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech. A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila. Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail. Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ. Sila hithau a esgorodd ar Tubal-cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal-cain ydoedd Naama. A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a leddais ŵr i’m harcholl, a llanc i’m clais. Os Cain a ddielir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith. Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: Oherwydd DUW (eb hi) a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef. I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.